P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emma Eynon, ar ôl casglu 59 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n rhoi mwy o hawliau i drydydd partïon apelio penderfyniadau cynllunio. Ar hyn o bryd, ystyrir bod hyd yn oed y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn drydydd partïon i geisiadau cynllunio a gymeradwyir ac nad oes ganddynt fawr o hawl, os o gwbl, i apelio na hyd yn oed cynnig mewnbwn i amodau cynllunio. Mae’r broses adolygu barnwrol wedi’i hanelu at ddatblygwyr ac nid yw’r terfyn amser o chwe wythnos ar gyfer cyflwyno cais o’r fath yn addas ar gyfer grwpiau gweithredu cymunedol. Dylai fod gan drydydd partïon yr un hawliau â datblygwr i apelio penderfyniadau cynllunio ac ni ddylai fod rhaid iddynt anfon pob cyfathrebiad drwy law’r aelod ward etholedig.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Castell-nedd

·         Gorllewin De Cymru